Buddugoliaeth Fawr Côr Meibion Pendyrus

Ar nos Sadwrn Mehefin y 29fed cafodd Côr Meibion Pendyrus fuddugoliaeth nodedig yng Ngwyl Fawr Aberteifi. Dyma’r pumed tro i’r côr gipio’r wobr yn yr Eisteddfod safonol hon. Enillwyd yno y tro cyntaf dan y chwedlonol Arthur Duggan yn 1958, a dyma’r pedwerydd tro i’r côr enill dan arweiniad ysbrydoledig Stewart Roberts, sydd byth heb golli yn Aberteifi, ers ennill am y tro cyntaf yn 2010, a dilyn hynny gyda buddugoliaethau pellach yn 2012, 2017, a nawr 2019.
Roedd pump côr yn y gystadleuaeth sef Dynfant, Taf, Ar Ol Tri, Pendyrus, a Bechgyn Bro Taf. Canodd pawb yn gampus ond cynigiodd Ar Or Tri her arbennig oherwydd roeddent yn anelu am Langollen yr wythnos wedyn ac wedi paratoi rhaglen uchelgeisiol ar ei chyfer, sef darn comisiwn gan Gareth Glyn a chân o Sweden wedi ei chanu yn yr iaith honno.
Roedd dylanwad Gareth Glyn yn amlwg yn yr eisteddfod eleni. Roedd Bro Taf, Ar Ol Tri a Phendyrus wedi comisiynu darnau ganddo. Roedd Ar Ol Tri wedi gofyn iddo osod geiriau’r prifardd Ceri Wyn Jones, aelod o’rcôr, er cof am y prifardd Dic Jones a fu farw ddeng mlynedd yn ol.
Roedd Pendyrus wedi rhoi rhyddid i Gareth Glyn ddewis ei eiriau ei hun, ac ar ol trafod gydag un o aelodau’r côr Gareth Williams penderfynwyd y byddai detholiad o bryddest Rhydwen Williams ‘Ffynhonnau’ a enillodd y Goron ym Mhrifwyl Abertawe yn 1964 yn gweddu i’r dim gan fod y gerdd, gan fardd a aned yn y cwm, yn trafod profiad diwydiannol a hynt yr iaith yng Nghwm Rhondda, gyda chyferiad penodol ynddi at ‘Gôr Pendyrus yn canu’r anthem fawr’. Yn naturiol fe ganodd y côr y geiriau hyn gydag arddeliad a denu canmoliaeth arbennig gan y beirniaid, sef yr arweinydd corawl profiadol Pat Jones o Gôr Eifionydd, a’r unawdydd Leah Marian Jones.
Dewis arall Pendyrus oedd ‘Dana Dana’, hwn eto’n cynnig cryn her i unrhyw gôr, cân Hwngaraidd fywiog ac hynod egniol.
Roedd y fuddugoliaeth yn deyrnged i waith caled a diarbed y cyfarwyddwr cerdd Stewart Roberts, a’r cyfeilydd Gavin Parry, y ddau yn werthfawrogol o ymrwymiad a gwaith caled aelodau Pendyrus wrth baratoi’r ddau ddarn mor gydwybodol.
Bydd Pendyrus yn canu’r ddau ddarn yma, gyda dwy gân arall, yn y Genedlaethol ymhen y mis yn Llanrwst, lle byddant yn gobeithio ychwanegu Cwpan y Ffiwsilwyr Cymreig at Gwpan Her Gwyl Fawr Aberteifi 2019 !