Newyddion
Yn anaml y clywir côr meibion o Gymru ar Radio 3, sianel a gyfrifir, ychydig yn annheg efalle, yn elitaidd ac uchel-ael. Ond ar nos Fercher Ebril 25ain cawsom ymweliad gan gynhyrchydd (Richard Denison) a chyflwynydd (Kate Molleson) y rhaglen wythnosol ‘Music Matters.’ Maent ar drywydd y cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac iaith mewn gwahanol rannau o Brydain.
Yn y cyd-destun Cymreig roeddent am wybod pa mor bwysig yw canu yn y Gymraeg, i siaradwyr yr iaith ac i’r ddi-Gymaeg. Buwyd yn cyfweld â Carl Bowen, Joshua Kelland a Gareth Williams. Cafodd yr ymwelwyr eu syfrdanu gan ganu seingar a nerthol y côr, a recordiwyd ‘Laudamus’, ‘Myfanwy’ a rhan o ‘Crossing the Plain’.
Darlledwyd y rhaglen ar Radio 3 ar ddydd Sadwrn Mai’r 5ed am 12.15 ganol dydd, ac eto ar ddydd Llun y 7fed am 10.15 y nos.