Pendyrus yn Llydaw

Ddechre mis Awst, pan fydd golygon eisteddfodwyr yng Nghymru yn troi tuag at Fae Caerdydd, bydd Côr Meibion Pendyrus yn teithio i Lydaw ar gyfer Gwyl Rhyng-Geltaidd enwog Lorient. Gŵyl Cymru yw hi yno eleni, a gofynwyd yn ffurfiol i Bendyrus chwarae rhan anrhydeddus yn y gweithgareddau. Nid oedd angen gofyn dwywaith !

Bydd rhyw drigain o gantorion, felly, ynghyd â’n cyfarwyddwr cerdd Stewart Roberts a’n cyfeilydd Gavin Parry yn hwylio i Cherbourg ar ddydd Iau yr ail o Awst, ac am yr wyth diwrnod nesaf bydd cyngerdd gennym bron bob dydd – neu bob nos, yn hytrach. Bydd nifer o’n perfformiadau yn rhai nosweithiol yn y Stade Moustoir, pan fydd cynrychiolwyr o’r gwahanol wledydd Celtaidd o’r Asturias i’r Alban hefyd yn cymryd rhan.

Yr uchafbwynt o safbwynt y Côr fodd bynnag yw ein cyngerdd unigol ac arbennig yn yr Eglise Saint-Louis ar nos Fawrth Awst y 7fed, gyda’r telynor Robin Huw Bowen yn unawdydd. Buom yn perfformio yn yr eglwys hyfryd hon adeg ein hymweliad diwethaf â Lorient yn 2011, a gwyddom o brofiad bod yr awyrgylch a’r acwsteg yno’n wefreiddiol.

Teithio nôl wedyn ar ddydd Gwener y 10fed, mewn pryd efalle i ddal diwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y corau meibion – lle y byddem ni wedi mentro i’r maes oni bai am y gwahoddiad i Lorient. Ffodus i feibion Pontarddulais, Machynlleth, Penybont a’r cystadleuwyr eraill, ynte ?!