Cyngerdd Gala

Cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Côr Meibion Pendyrus ar nos Wener Mai’r 4ydd yng Nghanolfan Chwaraeon y Rhondda Fach, gan ddechre yn brydlon am 7.15. Yn cynorthwyo’r côr bydd yr unawdwyr Sioned Gwen Davies a Luke McCall, yr offerynydd ifanc Charlotte Lewis, a Chôr Y Cwm sydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dwyn cymaint o glod i’r Rhondda.