Mae‘n bleser gan Gór Meibion Pendyrus gyhoeddi mae eu harweinydd newydd yw Ieuan Jones BMus (Prifysgol Caerdydd), dim ond y chweched penodiad i’r swydd allweddol hon yn hanes y Côr – hanes sydd bellach yn ymestyn hyd at naw deg chwech o flynyddoedd yn ddi-dor. Bydd Ieuan yn cychwyn ar yn ei swydd newydd yn Ionawr 2020 a mae’r 90+ o aelodau yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod newydd a chyffrous yn ein hanes.

Mae‘n bleser gan Gór Meibion Pendyrus gyhoeddi mae eu harweinydd newydd yw Ieuan Jones BMus (Prifysgol Caerdydd), dim ond y chweched penodiad i’r swydd allweddol hon yn hanes y Côr – hanes sydd bellach yn ymestyn hyd at naw deg chwech o flynyddoedd yn ddi-dor.

Bydd Ieuan yn cychwyn ar yn ei swydd newydd yn Ionawr 2020 a mae’r 90+ o aelodau yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod newydd a chyffrous yn ein hanes.

Daw Ieuan o sir Fôn cyn symud i Gaerdydd i astudio cerdd ym Mhrifysgol Caerdydd lle’r enillodd radd gydag anrhydedd. Tra’n fyfyriwr daeth yn organydd Eglwys Gymraeg Dewi Sant, ac ef bellach yw’r cyfarwyddwr cerdd a chôrfeistr yno. Ef hefyd yw arweinydd Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd. Mae Ieuan yn o gystal yn gyfeilydd prysur i nifer o unawdwyr a chorau gan gynnwys Côr Ysgol Heol-y-March a Chôr Orffiws Treforys. Profodd gryn dipyn o lwyddiant mewn cystladleuthau ac eisteddfodau, yn eu plith Côr Plant y Byd yn Llangollen ac ennill Côr Cymru ar S4C. Bu’n teithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan gyfeilio yn Neuadd Albert yn Llundain, Neuadd Symffoni yn Birmingham, ac yn Rhif Deg Downing Street. Bu ar daith hefyd yn Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Sbaen, yr Eidal, Gwad Pwyl, Asia, Canada, a Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Mae’n cyfarwyddwr cerdd y Llewod Prydeinig a Gwyddelig a bu ar daith gyda nhw yn Seland Newydd yn 2017, a mae’n edrych ymlaen at eu harwain eto yn Ne Affrica yn 2021. Mae ei ddiddordebau cerdd yn ymestyn mor bell â chwarae’r ukulele a diddannu’r lliaws gyda’i allu fel iodlwr.

Buddugoliaeth Fawr Côr Meibion Pendyrus

Ar nos Sadwrn Mehefin y 29fed cafodd Côr Meibion Pendyrus fuddugoliaeth nodedig yng Ngwyl Fawr Aberteifi. Dyma’r pumed tro i’r côr gipio’r wobr yn yr Eisteddfod safonol hon. Enillwyd yno y tro cyntaf dan y chwedlonol Arthur Duggan yn 1958, a dyma’r pedwerydd tro i’r côr enill dan arweiniad ysbrydoledig Stewart Roberts, sydd byth heb golli yn Aberteifi, ers ennill am y tro cyntaf yn 2010, a dilyn hynny gyda buddugoliaethau pellach yn 2012, 2017, a nawr 2019.
Roedd pump côr yn y gystadleuaeth sef Dynfant, Taf, Ar Ol Tri, Pendyrus, a Bechgyn Bro Taf. Canodd pawb yn gampus ond cynigiodd Ar Or Tri her arbennig oherwydd roeddent yn anelu am Langollen yr wythnos wedyn ac wedi paratoi rhaglen uchelgeisiol ar ei chyfer, sef darn comisiwn gan Gareth Glyn a chân o Sweden wedi ei chanu yn yr iaith honno.
Roedd dylanwad Gareth Glyn yn amlwg yn yr eisteddfod eleni. Roedd Bro Taf, Ar Ol Tri a Phendyrus wedi comisiynu darnau ganddo. Roedd Ar Ol Tri wedi gofyn iddo osod geiriau’r prifardd Ceri Wyn Jones, aelod o’rcôr, er cof am y prifardd Dic Jones a fu farw ddeng mlynedd yn ol.
Roedd Pendyrus wedi rhoi rhyddid i Gareth Glyn ddewis ei eiriau ei hun, ac ar ol trafod gydag un o aelodau’r côr Gareth Williams penderfynwyd y byddai detholiad o bryddest Rhydwen Williams ‘Ffynhonnau’ a enillodd y Goron ym Mhrifwyl Abertawe yn 1964 yn gweddu i’r dim gan fod y gerdd, gan fardd a aned yn y cwm, yn trafod profiad diwydiannol a hynt yr iaith yng Nghwm Rhondda, gyda chyferiad penodol ynddi at ‘Gôr Pendyrus yn canu’r anthem fawr’. Yn naturiol fe ganodd y côr y geiriau hyn gydag arddeliad a denu canmoliaeth arbennig gan y beirniaid, sef yr arweinydd corawl profiadol Pat Jones o Gôr Eifionydd, a’r unawdydd Leah Marian Jones.
Dewis arall Pendyrus oedd ‘Dana Dana’, hwn eto’n cynnig cryn her i unrhyw gôr, cân Hwngaraidd fywiog ac hynod egniol.
Roedd y fuddugoliaeth yn deyrnged i waith caled a diarbed y cyfarwyddwr cerdd Stewart Roberts, a’r cyfeilydd Gavin Parry, y ddau yn werthfawrogol o ymrwymiad a gwaith caled aelodau Pendyrus wrth baratoi’r ddau ddarn mor gydwybodol.
Bydd Pendyrus yn canu’r ddau ddarn yma, gyda dwy gân arall, yn y Genedlaethol ymhen y mis yn Llanrwst, lle byddant yn gobeithio ychwanegu Cwpan y Ffiwsilwyr Cymreig at Gwpan Her Gwyl Fawr Aberteifi 2019 !

Pendyrus yn Llydaw

Ddechre mis Awst, pan fydd golygon eisteddfodwyr yng Nghymru yn troi tuag at Fae Caerdydd, bydd Côr Meibion Pendyrus yn teithio i Lydaw ar gyfer Gwyl Rhyng-Geltaidd enwog Lorient. Gŵyl Cymru yw hi yno eleni, a gofynwyd yn ffurfiol i Bendyrus chwarae rhan anrhydeddus yn y gweithgareddau. Nid oedd angen gofyn dwywaith !

Bydd rhyw drigain o gantorion, felly, ynghyd â’n cyfarwyddwr cerdd Stewart Roberts a’n cyfeilydd Gavin Parry yn hwylio i Cherbourg ar ddydd Iau yr ail o Awst, ac am yr wyth diwrnod nesaf bydd cyngerdd gennym bron bob dydd – neu bob nos, yn hytrach. Bydd nifer o’n perfformiadau yn rhai nosweithiol yn y Stade Moustoir, pan fydd cynrychiolwyr o’r gwahanol wledydd Celtaidd o’r Asturias i’r Alban hefyd yn cymryd rhan.

Yr uchafbwynt o safbwynt y Côr fodd bynnag yw ein cyngerdd unigol ac arbennig yn yr Eglise Saint-Louis ar nos Fawrth Awst y 7fed, gyda’r telynor Robin Huw Bowen yn unawdydd. Buom yn perfformio yn yr eglwys hyfryd hon adeg ein hymweliad diwethaf â Lorient yn 2011, a gwyddom o brofiad bod yr awyrgylch a’r acwsteg yno’n wefreiddiol.

Teithio nôl wedyn ar ddydd Gwener y 10fed, mewn pryd efalle i ddal diwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y corau meibion – lle y byddem ni wedi mentro i’r maes oni bai am y gwahoddiad i Lorient. Ffodus i feibion Pontarddulais, Machynlleth, Penybont a’r cystadleuwyr eraill, ynte ?!

Newyddion

Radio3

Yn anaml y clywir côr meibion o Gymru ar Radio 3, sianel a gyfrifir, ychydig yn annheg efalle, yn  elitaidd ac uchel-ael. Ond ar nos Fercher Ebril 25ain cawsom ymweliad gan gynhyrchydd (Richard Denison) a chyflwynydd (Kate Molleson) y rhaglen wythnosol ‘Music Matters.’  Maent ar drywydd y cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac iaith mewn gwahanol rannau o Brydain.

Yn y cyd-destun Cymreig roeddent am wybod pa mor bwysig yw canu yn y Gymraeg, i siaradwyr yr iaith ac i’r ddi-Gymaeg. Buwyd yn cyfweld â Carl Bowen, Joshua Kelland a Gareth Williams. Cafodd yr ymwelwyr eu syfrdanu gan ganu seingar a nerthol y côr, a recordiwyd ‘Laudamus’, ‘Myfanwy’ a rhan o ‘Crossing the Plain’.

Darlledwyd y rhaglen ar Radio 3 ar ddydd Sadwrn Mai’r 5ed am 12.15 ganol dydd, ac eto ar ddydd Llun y 7fed am 10.15 y nos.