Beth Sydd Mewn Enw ?

Alfred Tylor oedd y gwr fu’n gyfrifol am ddatblygu diwydiant yn yr ardal pan suddodd siafft lo yn y rhan yma o’r Rhondda Fach yn 1872. Ef felly a roddodd ei enw i’r pentre a ddatblygodd o gwmpas y lofa. Adweinid y pwll cyntaf hwnnw ymhen amser fel ‘Ferndale Number 6’, ond ei enw gwreiddiol oedd Pendyrus, ar ol dwy fferm, Pendyrus Uchaf a Pendyrus Isaf, oedd bryd hynny i fyny ar y bryniau uwchben y dyffryn.

Ar y noswaith gyntaf y cyfarfu’r côr, sylwodd y dynion ar dân oedd yn prysur ddifa’r Pwerdy yr ochr arall i’r cwm, a gwelsant yng ngolau’r fflamau mae yr enw ar focs signal gyferbyn oedd Pendyris (wedi ei sillafu felly).Barn y cantorion oedd bod yr enw hwn yn fwy hanesyddol, telynegol a Chymreig na Tylorstown, ac felly y bu. Yn wir mae’r Swyddfa Bost nawr yn cydnabod Pendyrus fel yr enw Cymraeg ar y pentre, a cheir ef hefyd ar ddwy stryd yn y pentre, un arall yng Nghaerdydd, a choeliwch neu beidio, ar stryd yn Delta, Pennsylvania, a ail-enwyd felly i gofio taith y côr i’r dalaith yn 1989.

Cysylltwch â ni !
Prynu
Uchafbwyntiau mewn 40 mlynedd
Yn y Dechreuad
Management Team
Former Musical Directors

Former Accompanists