Yn y Dechreuad

Roedd yna gôr meibion yn Tylorstown ers y dyddiau cynnar y pentref. Cwm digon diarffordd a gwledig, tenau ei boblogaeth, oedd dyffryn y Rhondda Fach cyn i Alfred Tylor gyrraedd a phenderfynu cloddio am yr aur du a glywsai oedd yn gorwedd yno. Dros nos fe drawsffurfiwyd y cwm o fod yn gasgliad o ffermydd a bythynod gwagaredig i fod yn un o ardaloedd diwydiannol prysuraf y byd. Yn 1872 suddodd Tylor ei siafft gyntaf i dynnu’r glo fyny o grombil y ddaear, ac ymhen dim dyma bobl yn ymgasglu o’i chwmpas a daeth pentre Tylor, sef Tylor’s-town, i fodolaeth. Dynion ifanc oedd y mwyfrif ohonynt yn gobeithio am waith a chyflogau uwch nag oedd i’w hennill yng nghefn gwlad. Deuai’r cenhedlaeth gyntaf o fewnfudwyr o’r Gymru wledig hon a’i thraddodiad o addoli mewn capeli Cymraeg anghydffurfiol a chanu cynulleidfaol grymus. Planwyd y traddodiad yma mewn tir newydd poblog a ffrwythlon, ac yn fuan sefydlwyd capeli a chorau cymysg. Tyfodd y syniad o ffurfio côr meibion hefyd, ac mae rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn ‘Y Cerddor’ yn cyfeirio at gôr meibion Tylorstown mor gynnar â 1889. Mae’n go debyg y bu nifer o gorau tebyg yn yr ardal yn y cyfnod cyn 1914

Wrth i’r gymdeithas ddod at ei hun ar ol dyddiau blin y Rhyfel Mawr, 1914-1918, cododd yr awydd i weld côr meibion yn cael ei ffurfio eto.  Roedd y dyddiau anodd a fyddai’n wynebu’r diwydiant glo eisoes yn gwawrio, a diweithdra’n codi ei ben. Dau goliar diwaith, Ben Jones ac Emlyn Drew, a gafodd y syniad gwreiddiol o fynd ati o ddifri er mwyn ffurfio côr meibion newydd, ac aethant ar ofyn gwr oedd yn gweithio mewn popty lleol, Arthur Duggan, cerddor amatur oedd yn enedigol o Abertawe a ganddo brofiad fel arweinydd corawl, i gymryd yr awennau. Cytunodd hwnnw ar yr amod y gellid ffurfio côr o gant a hanner mewn nifer. Ni fuwyd yn hir cyn cyrraedd y nôd hwnnw unwaith y ganed y côr newydd yn ffurfiol yng nghaban Ffederasiwn y Glowyr yn y pentre ar Fai’r24ain, 1924, a’i alw’n Gôr Meibion Pendyrus ar ôl hen enw Cymraeg yr ardal.

Y Blynyddoedd Cynnar

Cynhaliwyd y clyweliadau cyntaf yn festri capel Ebenezer, Tylorstown, ac yn ol yr hanes ceisiodd ambell ymgeisydd ddianc trwy’r ffenest pan ddeallodd bod gofyn iddo gael prawf lleisiol. Serch hynny, o fewn dim fe gyrhaeddwyd y nôd o gant a hanner o aelodau, a bu rhaid i’r côr symud o’r festri i ysgol gynradd y pentref, a byddai honno’n gartref iddynt am y 75 mlynedd nesaf. Ymunwyd â’r cnewyllyn o lowyr oedd yn graidd y côr gan athrawon, siopwyr, a dynion o bob cylch mewn gwirionedd, a sefydlwyd trefn o rihyrsals ddwy waith yr wythnos a rhaglen o gyngherddau lleol. Bu’r Rhondda’n dioddef yn enbyd yn nirwasgiad y 30au, a bu cymaint ag 80% o aleodau’r côr yn ddiwaith yn y cyfod anodd hwnnw. Ond ni phallodd ffyddlondeb eu hymlyniad i gôr Pendyrus (enw hanesyddol yr ardal a fabwysiadwyd ganddynt) ac yn wir yn eu cyngerdd blynyddol olaf cyn yr Ail Ryfel Byd bu dros 160 ar y llwyfan yn Neuadd y Gweithwyr yn Ferndale.

Wedi’r Rhyfel

Bu nifer o’r aelodau’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd 1939-1945, ond er gwaetha’r gostyngiad mewn nifer yn y cyfnod hwnnw cadwodd y côr ei ben uwch y don. Pan ddaeth heddwch adferwyd ei nerth at rywbeth yn debyg i’r hyn ydoedd cynt, a bu’r côr yn gyson ei aelodaeth hyd heddi, gyda bron cant o gantorion o bob galwedigaeth ac o lefydd yn aml tu hwnt i’r cwm.