Ymunwch â Phendyrus a Gwelwch y Byd
Pendyrus yw’r unig gôr o Gymru i’w wahodd i ymddangos yng ngwyl gerdd enwog Aldeburgh (1979), ac mae hefyd wedi perfformio mewn gwyliau tebyg yn y Fenni, Burnley, Caerdydd, Coleraine, Corby, Glasgow, Glastonbury, Leek, Llandaf ac Oundle, ac yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae’r côr hefyd wedi canu yn eglwysi cadeiriol Ely, Henffordd, Llandaf, Wells, Tyddewi, St Woolos (Casnewydd) a Chaerwrangon, ac yn Abatai Dorchester, Margam a Tewkesbury, heb sôn am eglwysi hardd trwy Brydain benbaladr. Mae Pendyrus wedi teithio dwywaith yng ngogledd Iwerddon a phum gwaith i’r Alban, ac hefyd i Ynys Manaw. Ymhlith y neuaddau mawreddog sydd wedi atsain i sŵn Pendyrus mae Neuadd Albert, y Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall, a St John’s Smith Square yn Llundain, y Symphony Hall yn Birmingham, y Philharmonic Hall yn Lerpwl, Neuadd Brangwyn yn Abertawe, ac Arena Rhyngwladol Caerdydd. Ymddangosodd Pendryrus yng nghyngerdd agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd 2004, a mae wedi cymryd y llwyfan 58 o weithiau mewn dwy ar hugain o flynyddoedd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Mae’r côr wedi perfformio droeon gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru, a gydag unawdwyr ac arweinyddion byd enwog. Mae wedi ymddangos gerbron y Frenhines ac aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol, a chyfrannu at raglenni radio a theledu ar draws Ewrop, yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd gynt.Teithiodd Pendyrus dramor 13 o weithiau erbyn hyn – y cyntaf yn 1965 – a mae ei ddyddidadur taith yn darllen fel rhyw gyfeirlyfr rhyngwladol: Pendyrus yw’r unig gôr o Gymru i berfformio yn y Ty Gwyn a’r Kremlin, ac yn llysgenadaethau Prydain yn Washington a Moscow, heb anghofio ‘cyngherddau’ anffurfiol, tra wrthi’n trafaelu, yn Baffin Island, Greenland, Gwlad yr Iâ, Bahrain, a Singapore wrth deithio i Awstralia, Seland Newydd neu Ganada…..
Oes diddordeb gyda chi mewn ymuno ? ..Interested in joining?