Pam nad ymunwch chi â ni ?
Mae croeso cynnes bob amser i ddarpar gantorion yn mhob adran o’r côr. Falle eich bod eisoes yn meddwl am ymuno â chôr ac hoffech wybod mwy am PENDYRUS. Rydym yn gobeithio bod y wybodaeth ar y tudalennau hyn o gymorth, ond dyma ychwaneg o atebion pendant i rai cwestiynau yr hoffech eu gofyn:
Daw aelodau o bob ran o dde-ddwyrain Cymru, ac o bob galwedigaeth a dim un.
Nid yw oed na chefndir yn bwyisg, na’r gallu i ddarllen cerddoriaeth – er yn naturiol byddai profiad yn fantais. Anghofiwch am hunlle’r ‘prawf llais’ – does na’r un!
Nid cyfle i ganu mewn rhyw ddull ffwrdd-â-hi yw Pendyrus. Amaturiaid ydym ni i gyd ond ein bod yn ffodus o gael cerddorion proffesiynol i’n harwain a chyfeilio. Ein bwriad yw cynnal y gorau o’r traddodiad corawl Cymraeg. Rydym wedi perfformio trwy wledydd Prydain, ac yn Awstralia, Gwlad Belg, Canada, Seland Newydd, Rwsia a’r Unol Daleithiau.
Rydym wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu a radio, gwneud recordiau, a chael ein gwahodd i wyliau cerdd pwysig, er enghraifft Aldeburgh a Glastonbury
Nawr, rhai cwestiynau i chi!
Ydych chi’n barod i ddangos ymrwymiad i’r cor a chymryd ymarferion o ddifri?
Hoffech chi fod yn rhan o brofiad cerddorol diddorol, mentrus a gwerth chweil?
Ydych chi’n mwynhau cwmniaeth gyfeillgar?
Hoffech chi gael y cyfle i deithio (ym Mhrydain a thramor)?
Os ‘Ydw’ ac ‘Hoffwn’ yw’ch ateb i unrhyw un – neu i bob un – o’r cwestiynau hyn, yna Pendyrus yw’r lle i chi! Galwch heibio i ni adeg rihyrsal, gwnewch eich hun yn adnabyddus, ac fe gewch groeso cynnes!
Rydym yn cwrdd yn Neuadd Ies Tylorstown CF43 3DA ar nos Llun (7.00-8.30) a nos Fercher (7.00-8.30)
Os am ragor o wybodaeth cysyllter â’r Ysgrifennyd Cyffredinol: Gareth Haines, 9, Morris Avenue, Penrhiwceiber, MOUNTAIN ASH, RCT. CF45 3TW.
Ffôn symudol: 07584 438170 neu e-bostiwch : Garethhainespendyrus@outlook.com